Mae gan ein canolfan alwadau genedlaethol a phob un o’n swyddfeydd rhanbarthol system ffôn gyda staff hyfforddedig i ateb galwadau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid sydd ag offer ffôn testun. Y rhif ffôn testun cenedlaethol yw 0300 222 0222. Gallwch ddefnyddio’r rhif hwn i wneud apwyntiad mewn swyddfa basportau ac ar gyfer ymholiadau cyffredinol. Codir am alwadau ar y gyfradd genedlaethol.
We are also registered with Typetalk, the Royal National Institute for the Deaf and BT telephone service. Typetalk is available on: 18001 0300 222 0000 (see terms and conditions).
Mae gan bob swyddfa basportau staff hyfforddedig mewn iaith arwyddion a all eich helpu i lenwi eich ffurflen gais a gallant ateb unrhyw ymholiadau. Os oes angen cyfieithydd iaith arwyddion arnoch, rhowch wybod inni wrth wneud eich apwyntiad.
Mae ein swyddfeydd yn cynnwys sgriniau a dolenni cyswllt. Bydd aelod o’r staff yn gallu dweud wrthych pa gownteri sydd â’r cyfleusterau hyn.
Os cewch ei bod yn haws ichi glywed heb swn yn y cefndir, gallwn ddarparu ystafell dawel lle y gall staff siarad gyda chi. Rhowch wybod inni wrth wneud eich apwyntiad os hoffech ystafell dawel.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.