Mae rhai gwledydd tramor yn gofyn am i basport ddal yn ddilys am gyfnod ar ôl mynd i’r wlad honno. Nid yw dal pasport Prydeinig yn eithrio’r deiliad rhag cydymffurfio â’r gofynion hyn. Os yw eich pasport yn ei flwyddyn olaf fel pasport dilys, fe’ch cynghorir i wirio gofynion y wlad yr ydych yn mynd iddi cyn ichi wneud eich trefniadau terfynol i deithio.
Dylid codi unrhyw gwestiynau gyda’u conswliaid neu eu llysgenhadaeth. Gallwch weld rhestr o lysgenadaethau tramor yn y DU ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad - cyswllt â: Gall eich cwmni teithio roi cyngor ar fisâu ichi hefyd.
Ni does raid ichi aros i’ch pasport ddod i ben cyn ei adnewyddu. Os byddwch yn adnewyddu eich pasport cyn iddo ddod i ben, bydd unrhyw gyfnod dilysrwydd sy’n weddill yn cael ei dalgrynnu i’r mis cyfan agosaf (un mis yw’r cyfnod lleiaf, naw mis yw’r cyfnod lleiaf) yn cael ei ychwanegu at eich pasport newydd. Mae’r cyfnod hwn yn cael ei gyfrifo o’r adeg pan awdurdodir rhyddhau eich pasport newydd, nid o’r dyddiad pan wnaed eich cais. Felly bydd yn rhaid ichi wneud cais o leiaf chwe wythnos cyn i’ch pasport ddod i ben er mwyn cael y fantais hon.
Cyfeiriad pellach:
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.