Llawr Gwaelod
Northgate House
Heol y Dollborth
SY23 2JS
Os oes gofyn ichi fynychu swyddfa gofalwch eich bod yn mynd i’r swyddfa gywir. Gallai methu gwneud hynny olygu eich bod yn colli eich apwyntiad a bod oedi gyda’ch cais. Mae’r swyddfa hon ar gyfer oedolion sy’n cael eu pasportau cyntaf ac sy’n mynychu eu cyfweliad am basport
Defnyddiwch y map isod i weld manylion am leoliad y swyddfa gyfweliadau gan gynnwys yr orsaf reilffordd a'r maes parcio agosaf. Cliciwch ar y saeth i weld manylion am y lleoliad hwnnw.
Trefnu eich ymweliad â swyddfa gyfweliadau Aberystwyth (ffenestr newydd)
Ceir gwasanaethau uniongyrchol i Aberystwyth o’r Trallwng, y Drenewydd, Caersws, Machynlleth a’r Borth. O orsaf reilffordd Aberystwyth, dewch allan a mynd yn eich blaen i Ffordd y Môr, ac yna i’r chwith i Rodfa’r Gogledd. Ewch ymlaen nes cyrraedd Heol y Dollborth. Mae’r swyddfa gyfweliadau yn Heol y Dollborth ar y llawr gwaelod.
Ceir sawl gwasanaeth i Aberystwyth. Fe’u darperir gan National Express (420 o’r Trallwng a’r Drenewydd - gwasanaeth yn cychwyn yn Llundain), Trawscambria (X32 o Fangor; X40 o Gaerdydd; X50 o Aberteifi) a Coach Travel Wales (701 o Gaerdydd; X7 yn codi teithwyr yn y Trallwng, y Drenewydd a Machynlleth. Gwasanaeth yn cychwyn ym Manceinion). Holwch ddarparwr y gwasanaeth am fanylion.
Mae’r orsaf fysiau ganolog yn Ffordd Alexandra. O’r orsaf fysiau, trowch i’r chwith ar hyd Ffordd Alexandra, ac yna i gyfeiriad y chwith i Stryd Thespis. Trowch i’r dde i Heol y Dollborth. Mae’r swyddfa gyfweliadau yn Nhy’r Dollborth ar y llawr gwaelod. Mae gwasanaethau da i Aberystwyth: 501,502, 504, 507 a 508. Mae gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael hefyd ar wasanaeth 503.
Mae’r swyddfa gyfweliadau ar lawr gwaelod Ty’r Dollborth, a adwaenir hefyd fel Adeiladau’r Goron, ac mae’n daith 6 munud ar droed o’r orsaf reilffordd.
Nid oes cyfleusterau parcio yn y swyddfa.
Mercher a Sadwrn: 8:00am – 1:00 pm
Llinell Gyngor Pasportau: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau).Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.