Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Swyddfa Gyfweliadau

Casnewydd Swyddfa Gyfweliadau

15fed llawr
Chartist Tower
Upper Dock Street
Casnewydd
NP20 1DW

Os oes gofyn ichi fynychu swyddfa gofalwch eich bod yn mynd i’r swyddfa gywir. Gallai methu gwneud hynny olygu eich bod yn colli eich apwyntiad a bod oedi gyda’ch cais. Mae’r swyddfa hon ar gyfer oedolion sy’n cael eu pasportau cyntaf ac sy’n mynychu eu cyfweliad am basport

Defnyddiwch y map isod i weld manylion am leoliad y swyddfa gyfweliadau gan gynnwys yr orsaf reilffordd a'r maes parcio agosaf. Cliciwch ar y saeth i weld manylion am y lleoliad hwnnw.

Sut i gyrraedd Swyddfa Gyfweliadau Casnewydd:

Wrth yrru

Sylwer Mae gan IPS swyddfa basportau ranbarthol hefyd yn Olympia House tua 200m i ffwrdd, hefyd yn Upper Dock Street. Mae arwyddion ffyrdd yn cyfeirio pobl at y swyddfa hon. Gofalwch eich bod yn mynd i’r swyddfa gywir neu gallech golli eich apwyntiad.

Ar y trên

Mae’r orsaf reilffordd tua 10 munud o daith ar droed o’r swyddfa gyfweliadau. O’r orsaf, dilynwch yr arwyddion i’r Swyddfa Basportau yn Olympia House, sydd hefyd yn Upper Dock Street. Mae’r swyddfa gyfweliadau ryw 200 medr heibio i’r Swyddfa Basportau.

Ar y bws

Mae Chartist Tower gyferbyn â’r orsaf fysiau yn Kingsway.

Ar droed

Mae’r swyddfa gyfweliadau yn Chartist Tower, sy’n hawdd ei adnabod fel yr adeilad talaf yng Nghasnewydd. Mae’n hawdd ei gyrraedd ar droed, mewn car, mewn bws ac ar y trên. Mae prif fynedfa’r swyddfa gyfweliadau ar Upper Dock Street.

Cyfleusterau parcio

Mae’r lleoedd parcio mwyaf cyfleus mewn maes parcio NCP gyferbyn â’r orsaf reilffordd, sydd i’w weld ar arwyddion wrth ichi gyrraedd Casnewydd. Mae’n bosibl ei gyrraedd trwy Gylchfan y Castell sydd yn union o flaen yr orsaf reilffordd. O’r fan hyn dilynwch yr arwyddion i’r Swyddfa Basportau. Ewch ymlaen am 200m heibio i Olympia House. Mae Chartist Tower ar y dde.

Oriau agor (apwyntiadau’n unig):

Mawrth, Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn: 8.00 am - 6.00 pm

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor Pasportau: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.