Llawr Cyntaf
Kingsway House
Ellice Way
LL13 7YT
Os oes gofyn ichi fynychu swyddfa gofalwch eich bod yn mynd i’r swyddfa gywir. Gallai methu gwneud hynny olygu eich bod yn colli eich apwyntiad a bod oedi gyda’ch cais. Mae’r swyddfa hon ar gyfer oedolion sy’n cael eu pasportau cyntaf ac sy’n mynychu eu cyfweliad am basport
Defnyddiwch y map isod i weld manylion am leoliad y swyddfa gyfweliadau gan gynnwys yr orsaf reilffordd a'r maes parcio agosaf. Cliciwch ar y saeth i weld manylion am y lleoliad hwnnw.
Mae Gorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam tua chwarter awr o daith ar droed o’r swyddfa gyfweliadau. Wrth ichi adael yr orsaf trowch i’r dde ar hyd Ffordd yr Wyddgrug a cherdded heibio i Glwb Pêl-droed Wrecsam ac Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru ar y dde. Wrth y cylchfan croeswch Ffordd yr Wyddgrug ac ymlaen ar hyd Ffordd Berse, lle mae B&Q ar y dde. Wrth y cylchfan nesaf trowch i’r chwith ar hyd Lôn Rhyd Brychdyn. Dilynwch y lôn gyntaf ar y chwith i Ellice Way gyda Gwesty Ramada Plaza ar y dde ichi. Ewch ymlaen am ychydig dros 50 llath at arwydd a baneri MoneyPenny ar y chwith, trowch yma. Mae’r swyddfa gyfweliadau ar lawr cyntaf Kingsway House (uwchben Canolfan Ddeintyddol Whitecross), sef yr adeilad ar ben y ffordd fynediad.
Mae gwasanaeth bysiau rheolaidd yn rhedeg o ganol tref Wrecsam i fynedfa Parc Technoleg Wrecsam ar Ellice Way. Mae’r safle bysiau agosaf ar Lôn Rhyd Brychdyn. O’r fan hon ewch ymlaen fel uchod.
Mae’r swyddfa gyfweliadau ar lawr cyntaf Kingsway House, Parc Technoleg Wrecsam, a’r fynedfa yn Ellice Way. Mae’r swyddfa gyfweliadau uwchben Canolfan Ddeintyddol Whitecross. Gellir mynd i’r swyddfa gyfweliadau trwy ddefnyddio’r intercom ar y drws.
Ceir pedwar lle parcio yn Kingsway House i gwsmeriaid y swyddfa gyfweliadau, gan gynnwys un man parcio i’r anabl.
Mae’r swyddfa gyfweliadau’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
Llun, Mawrth, Mercher a Sadwrn: 8:00am-6:00pm
Llinell Gyngor Pasportau: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.