If you are required to attend an office make sure you go to the correct office. Failure to do so could result in you missing your appointment and your application being delayed. This office is only for urgent passport renewals. I.e. for customers who need to travel in less than two weeks.
If you are not travelling within the next two weeks, please use the Apply for a passport section of this website.
O’r Gogledd ar hyd yr A1. Gadewch yr
A1 wrth gyffordd 17. Ewch i gyfeiriad Canol y Ddinas. Wrth gyffordd
5 ar y ffordd ddeuol, trowch i gyfeiriad Canol y Ddinas. Wrth
y cylchfan nesaf dilynwch yr ail lôn. Rydym yn yr adeilad
ar y chwith ichi wrth y gyffordd T.
O’r Gogledd ar hyd yr A15. Dilynwch yr
arwyddion am Peterborough. Ewch ar hyd y lôn ddeuol o gwmpas
Peterborough i gyfeiriad Eastern Industry. Wrth gyffordd 5 ar
y ffordd ddeuol, trowch i gyfeiriad Canol y Ddinas. Wrth y cylchfan
nesaf dilynwch yr ail lôn. Rydym yn yr adeilad ar y chwith
ichi wrth y gyffordd T.
O’r Dwyrain/De ar hyd y M11/A14/A1. O’r
M11 dilynwch yr arwyddion Gaergrawnt a Huntingdon A14. Bydd yr
A14 yn ymuno â’r A1. Gadewch yr A1 wrth gyffordd 17
(yn dwyn yr arwydd Peterborough A1139). Wrth gyffordd 5 ar y ffordd
ddeuol, trowch i gyfeiriad Canol y Ddinas. Wrth y cylchfan nesaf
dilynwch yr ail lôn. Rydym yn yr adeilad ar y chwith ichi
wrth y gyffordd T.
O’r Dwyrain A47. Dilynwch yr arwyddion
am Eastern Industry/Llundain. Dilynwch y ffordd ddeuol hyd gyffordd
5. Trowch i gyfeiriad Canol y Ddinas. Wrth y cylchfan nesaf dilynwch
yr ail lôn. Rydym yn yr adeilad ar y chwith ichi wrth y
gyffordd T.
O’r Gorllewin ar hyd y M6/A14/A605. Gadewch
y M6 wrth allanfa’r A14 (yn dwyn yr arwydd Felixstowe, Kettering).
Dilynwch yr A14 a gadael wrth gyffordd 13 yn dwyn yr arwydd Peterborough
A605. Wrth ichi gyrraedd yr A1 ewch yn syth ar draws i gyfeiriad
Canol y Ddinas. Wrth gyffordd 5 ar y lôn ddeuol, trowch
i gyfeiriad Canol y Ddinas. Wrth y cylchfan nesaf dilynwch yr
ail lôn ar y chwith. Rydym yn yr adeilad ar y chwith ichi
wrth y gyffordd T.
Ar drên a bws
Wrth ichi adael Gorsaf Reilffordd Peterborough, trowch i'r dde trwy'r brif fynedfa a dilynwch y ffordd i Bourges Boulevard.
Croeswch y bont i gerddwyr dros Bourges Boulevard i Ganolfan Siopa
Queensgate. Dilynwch yr arwyddion am yr Orsaf Fysiau (cyn ichi gyrraedd
siop John Lewis) a mynd yn y lifft neu ar y grisiau i’r Orsaf
Fysiau. Ewch allan trwy allanfa ogleddol yr Orsaf Fysiau a throi
i’r chwith i Westgate. Dilynwch yr arwyddion i’r Orsaf
Fysiau trwy Westgate a Midgate i City Road. Mae’r fynedfa
gyhoeddus i Swyddfa Basportau Peterborough ar gornel City Road/Northminster
Road.
Am amserlenni bysiau lleol cysylltwch â’r Llinell Deithio
ar 0870 608 2 608
Am wybodaeth am drenau, cysylltwch ag Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol
ar 08457 48 49 50
Lleoliad
Mae Swyddfa Basportau Peterborough yng Nghanol Dinas Peterborough,
gyferbyn â Market Square. Mae’r Swyddfa yn Aragon Court
ar Northminster Road, yn ymyl New Road a City Road.Ceir maes parcio
aml-lawr mawr (Maes Parcio’r Farchnad) dros y ffordd gyda digonedd
o le i barcio. Mae parcio i’r anabl a maes parcio Talu ac Arddangos
arhosiad byr ar gael ar City Road yn ymyl y Swyddfa.
Meysydd
Parcio – dyfyniad o wefan Cyngor Peterborough.
“Gall gyrwyr anabl barcio mewn unrhyw faes parcio o eiddo
Cyngor y Ddinas yn y mannau parcio yn ddi-dâl - trwy’r
dydd os dymunwch, gofalwch fod eich dyddiad terfyn yn glir i’r
Swyddog Parcio ei weld.
Parcio ar y Stryd.
Gall gyrwyr anabl barcio yn y mannau parcio talu ac arddangos yn
ddi-dâl, gofalwch fod eich dyddiad terfyn yn glir i’r
Swyddog Parcio ei weld.
Dyfyniad o Lyfryn y Cynllun Bathodyn Glas.
Gall deiliaid Bathodynnau barcio’n ddi-dâl a heb derfyn
amser wrth fesuryddion parcio ar y stryd, ac mewn mannau parcio
"talu ac arddangos" ar y stryd oni bai fod gorchymyn traffig
lleol, sy’n dynodi terfyn amser penodol i ddeiliaid bathodynnau
parcio i’r anabl, megis gwaharddiad ar lwytho mewn grym. Gall
deiliaid bathodynnau dos yn rhydd rhag terfynau amser ar barcio
sy’n gymwys i ddefnyddwyr eraill. (Gwiriwch yr arwyddion lleol
am fanylion).”
P1 – Maes Parcio Aml-lawr y Marchnadoedd Arhosiad Byr a Hir
P2 & P3 - Brook Street Arhosiad Byr a Hir
P4 - Wellington Street Arhosiad Byr a Hir
P5 - Dickens Street Arhosiad Byr a Hir
P6 - Maes Parcio Aml-lawr Queensgate. Arhosiad Byr a Hir
P7 - Maes Parcio Aml-lawr Station Road. Arhosiad Byr a Hir
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.