Mae cyfweliadau’n cael eu cyflwyno i’r broses o wneud
cais am basport oherwydd:
Mae twyll a ffugio pasportau’n droseddau sy’n
mynd yn fwy soffistigedig. Mae mewnfudo anghyfreithlon,
dwyn hunaniaeth a thwyll budd-daliadau’n digwydd yn
aml gan ddefnyddio pasportau ffug neu rai a ddygwyd.
Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) rôl
hollbwysig i’w chwarae o ran lleihau twyll hunaniaeth,
sydd ar gynnydd mewn trosedd cyfundrefnol. Mae dwyn hunaniaeth
yn neilltuol o anodd ei adnabod am ei bod yn bosibl nad
yw rhywun yn sylweddoli ei fod yn digwydd nes iddi fynd
yn rhy hwyr.
Mae banciau, cymdeithasau adeiladu a sefydliadau eraill
bellach yn ceisio prawf adnabod ffotograffig cyn gwneud
busnes, ac mae derbyniad cynyddol i basport dilys.
Cadarnhau hunaniaeth a’r hawl i basport Prydeinig
sydd wrth wraidd ein gweithgarwch.
Mae cyfweliadau am basportau’n fenter o bwys gan
IPS i wella cywirdeb y broses o adnabod hunaniaeth a rhyddhau
pasportau.
Mae IPS am ddatblygu a rhannu gwybodaeth mewn cronfeydd
data gyda’r Llywodraeth a sefydliadau yn y sector
preifat, gan adeiladu ar sail ein llwyddiant gyda’n
cronfa ddata pasportau a Gollwyd, a Ddygwyd ac a Ganfuwyd.
Rydym yn cydweithio’n agos ag asiantaethau sy’n
gorfodi’r gyfraith a budd-ddeiliaid eraill er mwyn
sicrhau bod unigolion sy’n gwneud ceisiadau ffug am
basportau, neu sy’n defnyddio dogfennau ffug, yn cael
eu hatal ac nad ydynt yn elwa ar eu troseddau.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.