Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Cysylltu ag IPS

Mae’r tudalen hwn yn cynnwys gwybodaeth, help a thelerau ac amodau i greu dolen gyswllt â gwefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS).

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i greu dolen gyswllt ag IPS. Ond trwy greu dolen gyswllt ag IPS bernir eich bod wedi arddel ein telerau a’n hamodau.

Os byddwch yn ychwanegu dolen gyswllt ag IPS, cysylltwch â ni i roi gwybod. Dywedwch wrthym pa ddolen a ddefnyddiwyd gennych a ble mae’r ddolen ar eich safle.

Dolenni testun ag IPS

Os dymunwch ddefnyddio dolen destun ag IPS, dylech ddisgrifio IPS fel hyn:
Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau – y wybodaeth ddiweddaraf am basportau Prydeinig, cardiau adnabod a’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol

Gallwch ddefnyddio’r cod craidd a ganlyn i’r ddolen hon:



teitl="IPS - information…": darllenir y testun hwn gan borwyr llafar a gall defnyddwyr ei weld trwy ddal y llygoden dros y ddolen. Bydd hefyd yn helpu peiriannau chwilio trwy gysylltu geiriau ag IPS.

Os hoffech chi ychwanegu testun am IPS at eich mewnrwyd neu’ch gwefan, gallwch ddefnyddio’r disgrifiad cryno hwn:

Cewchganfod y wybodaeth ddiweddaraf am basportau Prydeinig, cardiau adnabod a’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol

Cod craidd

Dylai’r cod craidd i agor i ddolen edrych rywbeth yn debyg i hyn:



targed="_blank": bydd hwn yn agor IPS mewn ffenestr newydd yn y porwr.

lled="***" height="***": bydd angen ichi fewnosod maint y llun mewn picsemi; bydd hyn yn helpu i lwytho’r tudalen yn gynt.

src="[file_path/file_name.gif]": bydd angen ichi fewnosod llwybr y ffeil ac enw’r ffeil graffeg.

alt="Link to IPS…": darllenir y testun hwn gan borwyr llafar a gall defnyddwyr sydd wedi diffoddd eu graffeg ei weld.

Bydd hefyd yn helpu peiriannau chwilio trwy gysylltu geiriau â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.

Cyswllt ag IPS

Ni ddylech geisio cysylltu IPS â’ch safle neu mewn unrhyw gfynnwys sydd heb fod yn gysylltiedig ag IPS. Ni ddylech awgrymu chwaith unrhyw arnodiad neu gymeradwyaeth gan IPS ohonoch chi, o’ch gwefan neu o unrhyw gynnyrch neu gynnwys sydd heb fod yn gysylltiedig ag IPS.

Fframio a chyd-destun cynnwys IPS

Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i unrhyw fframiau ar eich safle. Rhaid llwytho ein tudalennau i ffenestr gyfan defnyddwyr. Ni ddylech chwaith fewnosod unrhyw lun mewn cynnwys IPS na chwarae trac sain drosto, na chaniatáu i unrhyw hysbysiad godi ar y sgrin yr un pryd â chynnwys info4local.

Cyfyngiadau ar safleoedd a all gysylltu ag info4local

Nid ydym yn caniatau i wefan greu dolen gysyllt ag IPS os bydd yn cynnwys deunydd sy’n enllibus, athrodus, pronograffig, anllad, neu os bydd mewn unrhyw fodd yn torri cyfraith Cymru a Lloegr neu os bydd yn tramgwyddo hawliau eiddo deallusol trydydd parti.

Tynnu dolenni

Os byddwn yn cysylltu â chi i ofyn ichi dynnu dolenni ag IPS, rhaid ichi wneud hynny ar unwaith.

Gwybodaeth bellach am ddolenni

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch chi am gysylltu ag IPS, cysylltwch â ni.

24-hour Passport Adviceline: 0300 222 0000 (see telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.