Mae’n rhaid ichi adrodd am golli neu ddwyn eich pasport Prydeinig cyn gynted â phosibl wrth yr heddlu lleol a Chonswlad, Llysgenhadaeth neu Uchel Gomisiwn Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) Prydain yn y wlad lle’r ydych. Gallwch gael manylion am eich swyddfa FC leol trwy ffonio +44 20 7008 1500 (0870 606 0290 o’r DU) neu drwy fynd at wefan y FCO (ffenestr newydd).
Wrth ichi adrodd wrth y swyddfa FCO bydd angen ichi lenwi a llofnodi ffurflen ddatganiad am basport a gollwyd neu a ddygwyd (LS01) hefyd. Mae’r ffurflen ar gael trwy swyddfeydd tramor hefyd. Rhaid adrodd am bob lladrad wrth yr heddlu lleol Rhaid adrodd am bob lladrad hefyd wrth yr heddlu lleol, am fod rhaid cynnwys manylion cyfeirnod y trosedd yn y rhan berthnasol o’r ffurflen LS01.
Bydd y swyddfa FCO yn cofnodi colli neu ddwyn eich pasport gan anfon y wybodaeth ymlaen i IPS. Byddwn wedyn yn canslo eich pasport er mwyn lleihau’r risg y bydd rhywun arall yn defnyddio eich hunaniaeth. Bydd y swyddfa FCO yn rhoi dogfennau teithio ichi yn ei le fel y gallwch deithio’n ôl i’r DU.
Yn ogystal, rydym yn argymell i chi wneud cais am basport yn ei le cyn gynted â phosibl am ei bod yn ofynnol ichi fod â phrawf adnabod gennych bob amser mewn rhai gwledydd. Gallwch wneud cais am basport yn ei le cyhyd â’ch bod yn ddinesydd Prydeinig a hefyd:
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.