Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

 

Adrodd am basport a gollwyd neu a ddygwyd

Beth os caf i hyd i'm pasport yn ddiweddarach?

Rhaid ichi ei ddychwelyd atom.

Unwaith y derbyniwn ni eich ffurflen LS01 i brosesu pasport a gollwyd, byddwn yn canslo eich pasport ac ni chewch ei ddefnyddio fel prawf adnabod cyfreithiol nac i unrhyw ddiben cyfreithiol arall.

Os cewch chi hyd i'ch pasport, rhaid ichi ei ddychwelyd i'ch swyddfa basportau agosaf cyn gynted â phosibl. Rhaid ichi beidio â'i ddefnyddio i deithio, gan y gall hyn achosi oedi neu arwain at atafaelu'r pasport gan y Gwasanaeth Mewnfudo mewn porthladdoedd neu byrth awyr. Rhaid ichi beidio â'i ddefnyddio chwaith fel prawf adnabod, gan y gellir barnu bod hyn yn weithred dwyllodrus botensial.

Llenwi'r ffurflen gais ar-lein

Os ydych chi wedi llenwi ffurflen gais ar-lein yn datgan bod eich pasport ar goll, ond os cewch chi hyd i'ch pasport cyn ichi ddychwelyd y ffurflen i IPS, Rhaid ichi beidio â llofnodi'r ffurflen. Yn lle hynny rhaid ichi ei ddychwelyd yn yr amlen a ddarparwyd gyda nodyn wedi'i lofnodi sy'n cadarnhau eich bod wedi dod o hyd i'ch pasport bellach ou ac nad ydych felly am ei ganslo.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.