Mawrth 19 Mehefin 2007
Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn rhoi grym atebolrwydd i'r cyhoedd yn nwylo dinasyddion - amddiffyniad hanfodol yn erbyn yr heriau a grëwyd gan chwyldroadau mewn technoleg, teithio a chymdeithas, meddai gweinidog y Swyddfa Gartref Liam Byrne mewn cynhadledd yn Chatham House heddiw.
Mae trawsnewidiadau megis y cynnydd aruthrol mewn defnyddio’r rhyngrwyd, yr ymchwydd mewn teithio rhyngwladol, a’r cynnydd rhyfeddol yn y wybodaeth bersonol a gynigir i gwmnïau preifat gan eu cwsmeriaid yn dod â phosibiliadau newydd i ddinasyddion Prydeinig ond mae’n dwyn risgiau newydd hefyd, i ffiniau, i gymunedau ac i unigolion. Gan ddadlau fod y Cynllun yn "fudd i gyhoedd yr 21ain ganrif ", dywedodd Mr Byrne y bydd technoleg hunaniaeth y Llywodraeth yn rhwym o ddod yn rhan o fywyd beunyddiol - ond ei bod yn bosibl y bydd angen rhagor o oruchwyliaeth gan y Llywodraeth.
Meddai Liam Byrne:
"Mae'r newidiadau hyn, o hyper-symudoledd nwyddau, cyllid a phobl i'r cysylltiadau cyflym ar y rhyngrwyd sydd bellach yn gyffredin, yn creu posibiliadau newydd i bobl Prydain ond maent yn golygu heriau a risgiau newydd hefyd."
"Oni bai ein bod yn buddsoddi mewn systemau hunaniaeth rydym yn gadael ein buddiannau a’n heconomi’n agored i gael eu cam-drin, rydym yn gadael unigolion yn ddiymgeledd rhag twyll ac rydym yn agored i’r perygl o afael y buddiannau a’r diogelwch yr ydym wedi gweithio mor galed i’w cael, yn agored i ymosod. Yn erbyn cefndir y risgiau hyn, mae’n annhebygol mai’r rhai mwyaf llwyddiannus a fydd yn dioddef gyntaf - ond y rhai sy’n methu fforddio eu hamddiffyn eu hunain."
"Yn yr un modd â’r rheilffyrdd yn y 19eg ganrif neu’r grid cenedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, bydd y system hunaniaeth genedlaethol cyn bo hir yn rhan o wead bywyd Prydain. Mewn 20 mlynedd, mae’n siŵr gen i y bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn rhan annatod o fywyd pob dydd ym Mhrydain - sefydliad cenedlaethol arall y byddai’n amhosibl meddwl am fywyd cyfoes hebddo, sut fywyd bynnag fydd bywyd yn 2020."
Tynnodd y Gweinidog sylw at risg gynyddol twyll hunaniaeth i';r DU gan ddefnyddio tystiolaeth o lansiad graddol fisâu biometrig yn y DU:
Mewn ymateb i'r heriau newydd, rhybuddiodd y Gweinidog ei gynulleidfa ein bod eisoes yn gweld systemau diogelwch biometrig yn amlhau mewn modd diberthynas a heb atebolrwydd.
Wrth gloi trwy ddweud bod y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol o fudd i'r cyhoedd yn yr 21ain ganrif, ymrwymodd Mr Byrne y Llywodraeth i atal costau a dywedodd y byddai angen cryfhau trefniadau atebolrwydd i'r senedd, gan amlinellu cynnydd ar bum menter ar y cyd:
NODIADAU I OLYGYDDION
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.