Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

News article

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y Cynllun Adnabod Cenedlaethol

Tuesday 06th November 2008

Mewn araith ar gyfer Sefydliad y Farchnad Gymdeithasol heddiw( Tachwedd 6ed 2008), amlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflwyno cardiau adnabod a’r hyn sydd wedi ei wneud mewn ymateb i faterion a godwyd gan y cyhoedd.

Bydd y cynllun ehangach yn cychwyn wrth gyflwyno cardiau adnabod i ddinasyddion sy’n tarddu o wledydd tramor o Dachwedd 25ain 2008.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd y byddai’n comisiynu mwy o waith er mwyn ymchwilio sut y gallai nifer fechan o ddinasyddion Prydeinig fanteisio ar gardiau adnabod yn gynnar trwy gyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad lawnsio swyddogol.

Roedd y cyhoeddiad hefyd yn amlinellu sut y mae’r llywodraeth wedi gwrando ar y cyhoedd ac wedi ymateb i’r pwyntiau ddaeth i’r fei yn ystod yr ymgynghoriad wedi cyhoeddi Cynllun Cyflwyno’r Drefn Cardiau Adnabod Cenedlaethol ym mis Mawrth 2008. Er mwyn helpu unigolion i ddeall beth fydd y cynllun yn ei olygu iddynt hwy, rydym hefyd wedi cyhoeddi’r arweiniad cyntaf ar gyfer y cyhoedd: Cyflwyno’r Cynllun Adnabod Cenedlaethol.

Ochr yn ochr â’n hymateb, rydym hefyd yn datgelu am y tro cyntaf beth fydd hyd a lled rôl y Comisiynydd Cynllun Cardiau Adnabod a fydd yn gofalu am fuddiannau’r cyhoedd, yn craffu’r modd y gweithredir y cynllun a sut y caiff cardiau adnabod eu defnyddio gan y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Heddiw hefyd, enwodd yr Ysgrifennydd Gwladol feysydd awyr Dinas Llundain a Manceinion fel y meysydd awyr hynny a fydd yn rhan o’r cyfnod cyntaf o gyflwyno cardiau adnabod ar gyfer dinasyddion y DU. O ran y diwydiant awyr, bydd un dull diogel o brofi pwy yw unigolyn yn arwain ar fanteision gwirioneddol ar gyfer cyflogwyr, gweithwyr a’r cyhoedd gan gyflwyno prosesau cyn- gyflogaeth a gwirio diogelwch fydd yn gyflymach, yn rhatach ac yn cyd-blethu’n well â’i gilydd.

Cyhoeddiadau Defnyddiol

Datgelodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynlluniau i ymwneud â busnesau a sefydliadau eraill er mwyn ymchwilio sut y gellid darparu ymrestru biometrig ar hyd y stryd fawr ac mewn lleoliadau eraill mwy cyfleus i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys lawnsio prosbectws i fusnesau yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer creu marchnad ymrestru biometrig.

Yn olaf, mae’r adroddiad diwedddaraf o ran y costau wedi’i gyhoeddi yn y Senedd heddiw, sy’n dangos mai cost sefydlu a rheoli’r cynllun yn y DU dros y ddeng mlynedd nesaf fydd Ł4.785 miliwn, gyda’r cynllun ar gyfer dinasyddion o dramor yn costio Ł326m.