Thursday 26th May 2005
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau am gardiau adnabod cenedlaethol gorfodol. Cyflwynir y cynllun yn raddol dros nifer o flynyddoedd a bydd y cardiau adnabod yn cynnwys gwybodaeth bersonol sylfaenol a dulliau adnabod biometrig. Mae’r dulliau adnabod biometrig unigryw hyn (megis patrwm lliw’r llygad neu olion bysedd) yn atal dwyn hunaniaeth pobl ac yn cadarnhau pwy yw rhywun yn ddiogel trwy wirio cerdyn. Yn ôl y cynlluniau cyfredol, cyflwynir y cardiau adnabod cyntaf o 2008.
I lawer o ddinasyddion y DU rhyddheir y cerdyn adnabod wrth i basportau gael eu hadnewyddu neu yn achos ceisiadau am basportau cyntaf. Bydd y Swyddfa Gartref, UKPS ac adrannau eraill y llywodraeth yn dechrau gosod seiliau’r cynllun, a fydd yn sefydlu dull mwy diogel o brofi hunaniaeth pobl. Fel rhan o’r broses hon, bydd UKPS yn bwrw ymlaen gyda’r mentrau i atal twyll a diogelu hunaniaeth gan gynnwys ychwanegu biometreg at y pasport Prydeinig.
Darperir y Cynllun Cardiau Adnabod gan asiantaeth newydd a fydd yn ymgorffori swyddogaethau Gwasanaeth Pasportau’r DU. Bydd yn cydweithio’n agos iawn â Chyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael sylw cyffredinol yn achos dinasyddion Prydeinig a thramorwyr.
Cyflwynwyd y Mesur Cardiau Adnabod ar 25 Mai 2005.
I wybod rhagor am y cynllun cardiau adnabod ewch at www.identitycards.gov.uk
Gallwch lwytho copi pdf o Adroddiad Prawf Cofrestru Biometreg UKPS yma.
Gallwch lwytho copi pdf o Grynodeb Rheolwyr Prawf Cofrestru Biometreg UKPS yma.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.