Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Press release archive

Estyn teithio i’r Unol Daleithiau heb fisa i ymwelwyr Prydeinig am flwyddyn arall

Friday 17th June 2005

Cyhoeddodd Adran Diogelwch Mamwlad yr Unol Daleithiau, ar 15 Mehefin, estyniad o flwyddyn ar ei Rhaglen Anwybyddu Fisâu hyd 26 Hydref 2006.

Mae’n ofynnol i wledydd sy’n perthyn i’r Rhaglen, gan gynnwys y DU, fod â system i ryddhau pasportau biometrig yn ei lle erbyn 26 Hydref 2006 fel y gallant barhau i fod yn aelodau o’r Rhaglen a manteisio ar deithio heb fisa i’r Unol Daleithiau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Cyhoeddodd yr Unol Daleithiau hefyd ei bod yn ofynnol i bob pasport newydd sy’n cael i ryddhau ar neu ar ôl 26 Hydref 2005 gynnwys llun digidol er mwyn galluogi’r deiliad i deithio i’r Unol Daleithiau heb fisa. Nid yw hyn yn effeithio ar y DU am ein bod yn rhyddhau pasportau digidol er 1998.

Mae hyn yn golygu:

Ni fydd yn ofynnol i ddinasyddion Prydeinig sydd â phasportau y gall peiriant eu darllen fod â fisa i fynd i’r Unol Daleithiau am eu bod yn bodloni meini prawf dyddiad terfyn y Rhaglen o 26 Hydref 2005.

Bydd ddinasyddion Prydeinig sydd â phasportau y gall peiriant eu darllen ond sydd heb lun digidol yn parhau i gael mynd i’r Unol Daleithiau heb fisa hyd 26 Hydref r 2006 am i’w pasportau gael eu rhyddhau cyn dyddiad terfyn 26 Hydref 2005.

Rhaid i ddinasyddion y DU sydd heb basportau y gall peiriant eu darllen geisio pasport y gall peiriant ei ddarllen neu wneud cais am fisa i’r Unol Daleithiau cyn teithio yno.

Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Gwasanaeth Pasportau’r DU (UKPS) yn croesawu penderfyniad yr Unol Daleithiau. Bydd yn galluogi’r DU bellach i gwblhau datblygiadau ein rhaglen fiometrig gan ganiatáu i ymwelwyr o Brydain deithio i’r Unol Daleithiau heb fisa.

See also: Yn teithio i UDA yn yr haf?

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Yr oedd Cyngres yr Unol Daleithiau wedi ei gwneud yn ofynnol yn 2003 fod rhaid i bob gwlad a oedd am aros yn y Rhaglen Anwybyddu Fisâu gynnwys dull adnabod biometrig yn eu pasportau erbyn 26 Hydref 2004. Estynnwyd y dyddiad terfyn hwn wedi hynny hyd 26 Hydref 2005.
  2. Diwygiwyd Rhaglen yr Unol Daleithiau y llynedd i’w gwneud yn ofynnol i ymwelwyr o Brydain, gan gynnwys plan, sy’n teithio yn yr Unol Daleithiau dan y Rhaglen, fod â phasport dilys y gall peiriant ei ddarllen. Nid yw hyn wedi newid.
  3. Gall peiriant ddarllen pasport Prydeinig pan fydd dwy linell o lythrennau, rhifau a marciau (“>>>>”) ar waelod y tudalen gwybodaeth bersonol (y tudalen sy’n cynnwys y llun a’r manylion personol). Bydd y testun ar stribed gwyn ar basportau hy^n y gall peiriant eu darllen ac ar y tudalen pinc ei hun yn achos pasportau mwy diweddar. Os nad oes llinellau o destun nid yw’r pasport yn un y gall peiriant ei ddarllen.
  4. Gall peiriant ddarllen y rhan fwyaf o basportau’r DU. Newidiwyd i luniau digidol o 1998 ymlaen. Mewn llun digidol mae delwedd y ffotograff wedi cael ei sganio i’r tudalen data. Mae pob pasport Prydeinig newydd a ryddheir yn y DU yn cynnwys lluniau digidol.
  5. Mae awdurdodau’r Unol Daleithiau wedi caniatáu anwybyddu’r Rhaglen unwaith i bobl o genedligrwydd Prydeinig basport y gall peiriant ei ddarllen. Fodd bynnag, mae Adran Mamwlad yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi y bydd yr eithriad hwn yn dod i ben ar 26 Mehefin 2005, ac y bydd yn gweithredu’r gofyn am basport y gall peiriant ei ddarllen yn llym.
  6. Mae biometreg yn cyfeirio at y nodweddion personol unigryw sy’n cael eu cyflwyno i basportau er mwyn osgoi potensial twyll adnabod. (y rhai mwyaf cyffredin yw’r wyneb, olion bysedd a lliw’r llygaid.)
  7. Y dyddiad ar gyfer cyflwyno pasportau Prydeinig biometrig yw’r cyfnod Ionawr-Gorffennaf 2006.

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.