Press release archive
Mesur cardiau adnabod yn derbyn cydsynias brenhinol
Derbyniodd y Mesur Cardiau Adnabod Gydsyniad Brenhinol heddiw, gan wneud yn statud fesurau pwysig a fydd yn helpu Prydain i wynebu her yr 21ain ganrif. Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol yn darparu dull cyffredin, diogel iawn i holl breswylwyr y DU dros 16 oed i ddiogelu eu hunaniaeth.
Enw’r asiantaeth newydd a fydd yn rhyddhau pasportau a chardiau adnabod fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS). Bydd yn ymgorffori Gwasanaeth Pasportau’r Deyrnas Unedig (UKPS) a bydd yn cydweithio’n agos â Chyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref, a daw yn weithredol ar 1 Ebrill 2006.
Meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Charles Clarke:
"Mae gallu prifi pwy ydym ni yn hanfodol mewn cymdeithas heddiw. Gan adeiladu ar sail profiad a rhagoriaeth amlwg y Gwasanaeth Pasportau, bydd yr IPS yn sicrhau bod y DU ar flaen y gad mewn ymgais ar draws y byd i wneud dogfennau’n fwy diogel, i ddiogelu ffiniau ac i warchod hunaniaeth y rhai sydd â hawl iddynt.
" Rwy’n credu y daw’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol â manteision mawr. Bydd yn rhoi ffodd syml a chyfleus i breswylwyr y DU brofi pwy ydynt; atal mewnfudo anghyfreithlon a gwirio anghyfreithlon; helpu i fynd i’r afael â throseddu cyfundrefnol a therfysgaeth; a chynnig dull o warchod rhag camddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Craidd y cynllun fydd cronfa ddata genedlaethol ddiogel yn cysylltu manylion personol sylfaenol â gwybodaeth fiometrig unigryw a fydd yn cryfhau, nid gwanhau, rhyddid sifil trwy ddiogelu hunaniaeth unigolion."
Bydd y Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol, sydd i gael ei gyflwyno’n raddol dros nifer o flynyddoedd, yn cysylltu gwybodaeth bersonol sylfaenol, megis enw a chyfeiriad, â biometreg ddiogel – sef llun cyfrifiadurol o liw llygaid, wyneb neu olion bysedd rhywun. Mae’r rhain yn unigryw ac yn cynnig diogelwch i bob dinesydd yn seiliedig ar y dechnoleg ddiweddaraf.
Bydd yr asiantaeth newydd yn gyfrifol am y canlynol:
- rhyddhau pasportau a darparu gwasanaethau pasportau;
- rhyddhau cardiau adnabod a darparu’r dull o ddilysu hunaniaeth pobl ar gyfer cyrff achrededig;
- darparu’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol gan gynnwys sefydlu’r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol; a
- hybu defnydd o’r Cynllun Hunaniaeth Cenedlaethol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn gwella rheoli hunaniaeth a sicrhau bod manteision y cynllun yn cael eu gwireddu´n llawn.
Ni fydd yn orfodol cario cerdyn ac ni fydda gan yr heddlu unrhyw bwerau newydd i fynnu gweld cerdyn. Fodd bynnag, byddai hwn yn gynllun cyffredin i bawb sy’n preswylio’n gyfreithlon yn y DU ac, yn amodol ar ddeddfwriaeth sylfaenol bellach, bydd yn orfodol cofrestru ar y cynllun.
Nodiadau i Olygyddion
- Cymeradwywyd y Mesur Cardiau Adnabod gan ddau Dy’r Senedd ar 29 Mawrth 2006.
- Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r DU i gyd ac mae’n:
• Sefydlu’r Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol;
• Darparu pwerau i ryddhau cardiau adnabod;
• Sicrhau y gellir gwirio yn ôl cronfeydd data eraill er mwyn cadarnhau hunaniaeth ymgeisydd a gwarchod rhag twyll;
• Amlinellu’r wybodaeth a ddelir a’r sicrwydd a fydd yn ei le;
• Galluogi cyrff yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddilysu hunaniaeth rhywun yn ôl y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol, gyda chydsyniad hwnnw neu honno, i ddilysu eu hunaniaeth cyn darparu gwasanaethau;
• Cynnwys pwerau galluogi fel y gellir cyplysu mynediad i wasanaethau cyhoeddus penodedig yn y dyfodol â chyflwyno cerdyn adnabod dilys; a
• Darparu, trwy ddeddfwriaeth sylfaenol bellach, iddi ddod yn orfodol cofrestru a derbyn cerdyn, gan gynnwys cosbau os na chofrestrir.
- Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau yn weithredol ar 1 Ebrill 2006.
- Mae’r Ddeddf yn cynnwys yr opsiwn i beidio ag ymuno, sy’n golygu y gall pobl sy’n gwneud cais am basport neu sy’n adnewyddu pasport hyd 1 Ionawr 2010, ddewis peidio â chael cerdyn adnabod, er y bydd eu manylion yn cael eu cynnwys yn y Gofrestr Hunaniaeth Genedlaethol.
- Hysbysebir rôl Prif Weithredwr yr Asiantaeth Newydd cyn gynted ag y bydd hyn yn ymarferol bosibl. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fynd i’r swydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- Bydd yr asiantaeth newydd yn adeiladu ar sail galluoedd presennol UKPS a datblygwyd strwythur rheolwyr hyn yn sgil ymgynghori helaeth gyda rheolwyr ac undebau. Bydd hwn yn ei le hefyd o 1 Ebrill 2006.
- Mae UKPS, Asiantaeth Weithredol y Swyddfa Gartref, yn gyfrifol am ryddhau pasportau i wladolion Prydeinig sy’n byw yn y DU. Ei rôl yw sicrhau unplygrwydd pob pasport a ryddheir, a bod y Pasport Prydeinig yn parhau i fod ymhlith y rhai mwyaf diogel ledled y byd. Yn ystod y tymor brig yn y flwyddyn 2004-05 cyflogai’r UKPS 3,303 o staff, y mae 90% ohonynt yn gweithio yn y swyddfeydd rhanbarthol.
- Yn 2004, UKPS oedd un o’r pedwar a enwebwyd (a’r unig gorff yn y DU) ar gyfer y wobr Carl Bertelsmann am effeithlonrwydd yn y sector cyhoeddus, a daeth yn un o’r ychydig o gyrff i ennill pumed ‘Marc Siartr’. Yn 2005 daeth UKPS ar y brig hefyd, am yr ail flwyddyn yn olynol, yn yr ymarfer meincnodi bodlonrwydd cwsmeriaid Comparisat.
- Ar hyn o bryd mae tua 47 miliwn o basportau Prydeinig i’w cael, ac mae 80% o’r boblogaeth yn dal pasport. Disgwylir i nifer y ceisiadau godi i tua 7 miliwn yn 2006. Ac eithrio UDA (8 miliwn) dyma fwy nag unrhyw wlad arall yn y byd. Bydd UKPS wedi prosesu 6.6 miliwn (y nifer uchaf erioed) yn y flwyddyn ariannol 2005/06, tra’n parhau i ddarparu lefelau uchel o ran bodlonrwydd cwsmeriaid, gan ragori ar y targed bodlonrwydd cwsmeriaid.
- Mae’r canlynol yn derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw hefyd: y Mesur Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd. Gellir gweld copi o´r Ddeddf ar: http://www.publications.parliament.uk (Swyddfa Gartref PN 094/2005) a’r Mesur Terfysgaeth (hysbysiad gwasg y Swyddfa Gartref 051/2006) Gellir gweld testun llawn y Ddeddf a nodiadau eglurhaol ar: http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2006.htm
Thursday 30th March 2006