Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Y newyddion diweddaraf

Cyhoeddi ffioedd ebasportau

Cyhoeddwyd y ffioedd am yr eBasport biometrig, y pasport mwyaf diogel i gael ei gynhyrchu yn y DU erioed, heddiw, wrth i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) ddatgan bod dros filiwn o eBasportau wedi cael eu rhyddhau erbyn hyn.

Daw’r ffioedd newydd i rym o 5 Hydref 2006. Dyma ddiwedd cynnydd ffioedd mewn dau gam er mwyn caniatáu cyflwyno’r pasport diweddaraf yn unol â safonau rhyngwladol yn ogystal â mesurau eraill i atal twyll megis gwiriadau cefndir gwell ar ymgeiswyr a pharatoadau ar gyfer cyfweliadau wyneb-yn-wyneb yn achos ymgeiswyr am basportau oedolion am y tro cyntaf.

Meddai Gweinidog y Swyddfa Gartref, Joan Ryan:

"Rhyddhawyd dros filiwn o eBasportau Prydeinig biometrig erbyn hyn, ac o ddiwedd yr haf hwn bydd pob pasport Prydeinig newydd yn eBasport, yn cynnwys sglodyn diogel sy’n storio manylion personol y deiliad a sgan o’u llun, yn ogystal â nodweddion diogelwch amgenach eraill. Mae hyn yn golygu gwell diogelwch a sicrwydd i’r deiliaid ac mae’n unol â safonau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol gyda’r nod o atal bygythiad cynyddol twyll a ffugio.

"Telir am gynhyrchu pasportau trwy’r ffi am basportau. Mae’r mesurau i atal twyll sy’n cael eu cyflwyno gennym yn costio, ond rydym yn bendant mai dyma bris y mae’n rhaid ei dalu er mwyn diogelu cyfanrwydd ein dogfennau teithio a gwella diogelwch ein ffiniau.

" Rydym yn benderfynol y bydd y Pasport Prydeinig yn dal i fod yn un o’r rhai mwyaf diogel yn y byd, ac yn ddogfen y gall teithwyr Prydeinig ddibynnu arni lle bynnag y byddant yn mynd."

Bydd eBasport oedolyn 10-mlynedd safonol yn costio £66 o 5 Hydref. Mae hyn yn cymharu’n rhesymol â’r ffioedd cyfatebol dros ddeng mlynedd am eBasportau mewn gwledydd eraill (Awstralia £72, Gwlad Belg £96, Ffrainc £41, Ynys yr Iâ £81, Siapan £163, Seland Newydd £123, Norwy £87, Y Swistir £219, UDA £54). Mae’r DU yn un o ddeugain o wledydd sy’n defnyddio eBasportau. O fis Hydref bydd cynhyrchu eBasportau’n ofynnol mewn gwledydd sydd am aros yng Nghynllun Hepgor Fisâu UDA.

Yn cael eu cyhoeddi heddiw hefyd mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon cyntaf Gwasanaeth Pasportau’r DU, a unodd ar 1 Ebrill 2006 â Rhaglen Cardiau Adnabod y Swyddfa Gartref i ffurfio IPS.

Meddai Bernard Herdan, Cyfarwyddwr Gweithredol Darparu Gwasanaethau IPS a chyn Brif Gyfarwyddwr UKPS:

"Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn sôn am flwyddyn lwyddiannus iawn arall i’r UKPS. Ar yr un pryd â gweithredu mentrau o bwys i atal twyll, wrth brosesu ceisiadau am basportau, ymdriniodd yr Asiantaeth â’r galw mwyaf erioed tra’n cynnal gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

"Llwyddodd yr Asiantaeth i gyrraedd ei tharged o drafod gwaith mewn deg diwrnod ynghyd â thargedau allweddol eraill o ran gwasanaeth cwsmeriaid, ac am y drydedd flwyddyn yn olynol daeth ar frig Arolwg Bodlonrwydd Comparisat, gan ragori ar fusnesau eraill megis Amazon, Asda, eBay, Marks and Spencer, a Tesco.

"Mae perfformiad da UKPS wedi creu man cychwyn ardderchog ar gyfer y gwaith y bydd IPS yn ei wneud dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Y ffioedd newydd am basportau a fydd mewn grym o 5 Hydref (ffioedd cyfredol mewn cromfachau):         

  Trwy’r Post  Gwasanaeth Cyflym Premiwm
Oedolyn £66 (£51) £91 (£77.50) £108 (£96.50)
Plentyn £45 (£34) £80 (£70) £93 (£83)

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Sefydlwyd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau fel Asiantaeth Weithredol i’r Swyddfa Gartref ar 1 Ebrill 2006. Cenadwri’r IPS yw ‘diogelu eich hunaniaeth’.
  2. Gall cwsmeriaid dderbyn y wybodaeth ddiweddarach am ffioedd pasportau trwy ffonio 0800 056 6654. Cyflwynwyd hyn yn sgil cyfnod prawf o chwe mis ac mae’n rhif rhadffôn er mwyn sicrhau bod pob cwsmer yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd. Gellir cael gwybodaeth am ffioedd hefyd trwy ffôn testun ar 0808 156 1559 ar www.passport.gov.uk neu gan bartneriaid IPS sy’n cynnig y gwasanaeth gwirio ac Anfon ar gyfer pasportau.
  3. Dechreuodd IPS ryddhau niferoedd bychain o eBasportau ym mis Mawrth, ac mae’n newid yn raddol o basportau digidol i rai biometrig er mwyn sicrhau bod y dechnoleg newydd yn cael ei chyflwyno mewn ffordd ddiogel, tra’n cynnal lefel dda o wasanaeth i gwsmeriaid. O ddiwedd yr haf hwn bydd pawb sy’n gwneud cais am basport Prydeinig yn derbyn y pasport ar ei newydd wedd wrth iddynt wneud eu cais nesaf am basport neu i adnewyddu pasport.
  4. Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon UKPS am 2005-2006 ar gael ar www.ips.gov.uk
  5. Mae tabl yn cymharu prisiau pasportau rhyngwladol ar gael ar www.ips.gov.uk
  6. Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau am IPS a phasportau, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg, y Swyddfa Gartref
    Office Press Office on 020 7035 3535.
  7. I wybod am y gwasanaethau y mae IPS yn eu darparu ac i wybod rhagor am y broses o wneud cais am basport, ewch i >www.passport.gov.uk neu ffoniwch y Llinell Gyngor ar Basportau ar 0870 521 0410.

Monday 24th July 2006

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0870 521 0410 (gweler telerau ac amodau).
Codir tal o 8c y funud am alwadau o linell ddaear BT ac atebir pob galwad gan weithwyr byw