Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Dychwelyd pasport rhywun a fu farw

Mae’n bwysig canslo pasport rhywun sydd wedi marw fel na ellir ei ddefnyddio’n anghyfreithlon. Os ydych yn y DU, dylech anfon neu gyflwyno’r pasport i’ch swyddfa basportau agosaf. Os ydych mewn gwlad dramor, dylech anfon y pasport i’r llysgenhadaeth, conswlad neu uchel gomisiwn Prydeinig agosaf ichi.

Os collir y pasport neu os nad yw ar gael eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu IPS am hyn. Dylech wneud hyn trwy anfon Ffurflen Pasportau a Gollwyd ac a Ddygwyd (LS01) (pdf 55kb, ffenestr newydd) a darparu copi o'r dystysgrif marw a ryddhawyd.

Er mwyn bod yn ddiogel, cyn ichi ei bostio, torrwch gornel dde uchaf y pasport er mwyn ei ddiddymu. Pan dderbyniwn ef byddwn naill ai’n ei ganslo ac yn cael gwared arno’n ddiogel ar eich rhan neu’n ei ganslo a’i ddychwelyd atoch chi. Rhowch wybod inni pa un sydd orau gennych. Os na nodir pa un sydd orau bydd IPS yn cael gwared ar y pasport wedi inni ei dderbyn.

Lawrlwytho Acrobat Reader
Lawrlwytho Acrobat Reader
I ddarganfod mwy ynglyn â sut i ymweld â pdfs: Ewch i Adobe. Os nad ydych yn medru darllen ffeiliau fformat PDF, yna gallwch ddefnyddio offerynnau cyfnewid Adobe Access Ar-lein i gael y fersiwn testun.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.