Er bod y Deyrnas Unedig yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, bydd angen ichi fod â phasport Prydeinig 10-mlynedd llawn (neu basport plentyn pum-mlynedd os ydych dan 16 oed a heb fod ar basport rhiant) bob tro y byddwch yn teithio i Ewrop. Mae hyn yn cynnwys gwibdeithiau diwrnod a theithio ar Eurostar.
Nid yw llawer o wledydd yn gwirio pasportau ar eu ffiniau tir erbyn hyn, ond maent yn dal i ddisgwyl i ymwelwyr fod â dogfen adnabod ddilys. Yn achos teithwyr o’r DU hwn yw’r pasport Prydeinig. Cofiwch, bydd yn rhaid i’ch pasport gael ei wirio yn y man rheoli mewnfudo pan ddychwelwch i’r DU.
Mae’r cerdyn ar gael am ddim, mae’n ddilys am hyd at bum mlynedd, a gellir gwneud cais amdano:
Mae’r EHIC yn eich yswirio hefyd am gyflyrau sydd eisoes yn bod lle nad yw eich yswiriant teithio efallai ddim yn gwneud ac yn wir, mae rhai polisïau yswiriant yn annilys heb EHIC.
Nid yw’r EHIC yn disodli yswiriant teithio. Ni fydd yn talu am golli bagiau, ad-daliadau am wyliau na theithio’n ôl i’r DU – felly mae’n rhaid ichi fod â’r ddau i fod yn gwbl ddiogel.
I wybod rhagor am yr EHIC, gan gynnwys lle y gellir ei ddefnyddio, pwy sy’n gymwys a’r hyn sy’n cael ei yswirio, gweler www.dh.gov.uk/travellers (ffenestr newydd).Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.