Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Travel advice

A oes angen fisa arnaf i deithio i UDA?

Nid oes angen fisa ar y rhan fwyaf o Ddinasyddion Prydeinig sy’n ymweld ag UDA am lai na 90 diwrnod am eu bod yn gymwys i gael mynediad rhydd dan Raglen Hepgor Fisâu UDA (gweler isod). Fodd bynnag, ceir eithriadau a dylech wirio a ydych yn gymwys ymhell cyn teithio.  Gellir gweld cyfarwyddyd defnyddiol yn adran Gofynion Mynediad gwefan cyngor ar deithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac ar wefannau Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau/Adran Diogelwch Cartref (Department for Homeland Security) trwy’r dolenni a ganlyn (noder os gwelwch yn dda yr agorir pob linc allanol mewn ffenestr blaenbori newydd):

Beth yw Rhaglen Hepgor Fisâu UDA(US VWP)?

Mae Rhaglen Hepgor Fisâu UDA (VWP) yn galluogi gwladolion rhai gwledydd i deithio i’r Unol Daleithiau am resymau twristiaeth a busnes am 90 diwrnod neu lai heb geisio fisa. Nid yw pob gwlad yn perthyn i’r VWP, ac nid yw pawb sy’n teithio o wledydd VWP yn gymwys i ddefnyddio’r rhaglen (er bod y rhan fwyaf o dwristiaid o Brydain yn gymwys) felly rhaid ichi wirio ymlaen llaw.

Rwyf wedi edrych ar y gwefannau ond rwy’n dal yn ansicr. Sut y gallaf wirio a oes angen fisa arnaf?

Nid yw IPS yn rhyddhau fisâu.  Bydd angen ichi gysylltu â Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn eich gwlad breswyl. Ceir y manylion cyswllt ar y wefan.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.