Os ydych yn bwriadu teithio i wlad y tu allan i diriogaethau Prydain mae’n bosibl y bydd angen fisa arnoch.
Er mwyn cael gwybod a oes angen fisa arnoch i fynd i wlad neilltuol, dylech wirio hyn gyda’ch cwmni teithio neu gysylltu â chonswlad neu lysgenhadaeth y wlad dan sylw. Mae’n bosibl cael rhifau ffôn conswladau a llysgenadaethau trwy ymholiadau.
Nodir eich cenedligrwydd ar eich pasport. Os dywed un o’r canlynol mae’n bosibl y bydd angen fisa arnoch i ymweld â gwledydd lle mae’n ofynnol i ddinasyddion Prydeinig fod â fisa.
Unwaith eto, rydym yn argymell ichi ofyn i’ch swyddfa deithio gysylltu â chonswlad neu lysgenhadaeth y wlad yr ydych yn bwriadu mynd iddi.
Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.