Identity and Passport Service

| Identity and Passport Service | English version |  

Hygyrchedd

Dyluniwyd safle’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) i fod yn gynhwysol a darparu mynediad i bawb sy’n ei ddefnyddio, ni waeth am anabledd technolegol neu gorfforol.

Dyluniwyd y tudalennau fel bod gwybodaeth ar gael i bawb, gan gynnwys defnyddwyr ag anableddau.
Mae pob templad wedi cael ei gymeradwyo gan Bobby i flaenoriaeth 2 (AA) a gwiriwyd pob rhybudd gan Bobby yn unigol.

Y materion allweddol a ystyriwyd gennym i sicrhau hygyrchedd yw’r canlynol:

Bysellau mynediad a sut i'w defnyddio

Mae Safon Bysellau Mynediad Llywodraeth y DU yn berthnasol i’r safle hen. Mae’n cynnig ‘llwybr tarw’ trwy’r bysellfwrdd i ddefnyddwyr sydd am fynd yn syth at rannau penodol o’r safle, ac mae o gymorth i rai sydd heb ddyfais pwyntio megis llygoden.

Defnyddiwyd is-set o'r safon ac mae’r bysellau mynediad fel a ganlyn:

S – Anwybyddu’r llyw
1 - Hafan
2 - Pethau newydd
3 - Map  o’r safle
5 – Cwestiynau Cyffredin (FAQ)
8 – Telerau ac amodau
9 – Cysylltu â ni
0 – Manylion am fysellau mynediad

Mae bysellau mynediad yn gweithio braidd yn wahanol gan ddibynnu ar y porwr a’r math o gyfrifiadur sydd gennych. I grynhoi:

Testun amgen

Mae pob delwedd ar y testun hwn yn dod gyda thestun amgen cryno sy’n disgrifio’r ddelwedd neu ei swyddogaeth fel y bo’n briodol. Nid yw'r testun amgen (alt-text) hwn ond yn weladwy fel arfer pan fydd teclyn llwytho delweddau awtomatig y porwr wedi ei ddiffodd.

Dolenni

Ysgrifennir pob dolen destun fel ei bod yn gwneud synnwyr y tu allan i’w chyd-destun.
Mae dolenni â safleoedd allanol yn agor mewn ffenestr bori newydd.

Dogfennau

Mae dolenni â dogfennau yn agor mewn ffenestr bori newydd.

Gallwch ddarllen ffeiliau PDF trwy ddefnyddio meddalwedd Adobe Reader, sydd ar gael ar gyfer llawer o systemau cyfrifiadurol, gan gynnwys Windows, Macintosh, Linux a Palm. I wybod rhagor am pdfs hygyrch ewch i Access Adobe (ffenestr newydd) . Am ragor o help gyda ffeiliau Acrobat yn gyffredinol ac am ddolen i lawrlwytho Acrobat Reader ewch i wefan Adobe (ffenestr newydd) .

Maint y testun

Dyluniwyd y testun ar y safle hwn gan ddefnyddio gwerth amhenodol mewn taflen arddull. Golyga hyn ei bod yn hawdd i ddefnyddwyr newid maint y testun trwy eu porwr.

Nôl i'r dudalen flaenorol

Llinell Gyngor ar Basportau 24 awr: 0300 222 0000 (gweler telerau ac amodau). Calls made to 0300 numbers from landlines and mobile phones are charged to customers at their network provider's national rate. Live operators are available to assist with your enquiry 24 hours a day.