Mae gan IPS bresenoldeb cenedlaethol ac mae'n cynnig cyfleoedd cyfleus am yrfa yn ein saith swyddfa ranbarth ac yn ein Pencadlys yn Llundain. Trwy ymuno ag IPS gallwch fanteisio ar holl fuddiannau gyrfa yn y gwasanaeth sifil gan gynnwys oriau gwaith hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol hael a chynllun pensiwn eithriadol. Yn ogystal â chynnig datblygiad gyrfa strwythuredig, byddwch yn cael y rhyddid a'r hyblygrwydd hefyd i weithio mewn gwahanol leoedd wrth i'ch gyrfa fynd rhagddi. Mae ein swyddfeydd yn Belfast, Glasgow, Lerpwl, Durham, Casnewydd a Peterborough yn delio gyda cheisiadau trwy'r post ac yn bersonol, tra bod ein swyddfa yn Llundain yn ymdrin â rhai sy'n galw'n bersonol yn unig.
Yn y dyfodol, bydd IPS yn cyfweld pawb sy'n gwneud cais am basport oedolyn am y tro cyntaf er mwyn atal twyll hunaniaeth.
Llinell Gymorth Pasport 24 awr: 0300 222 0000 (gweler yr amodau a thelerau). Bydd cwmeriaid yn talu cyfradd genedlaethol eu darparwyr rhwydwaith am unrhyw alwadau a wneir i rifau 0300 oddiwrth llinellau daearol a ffonau symudol. Mae unigolion ar gael I ddelio â’ch ymholiadau 24 awr y dydd.